Skip to content
Advertisement
Log in 
  • Do you need permission?
  • Planning
  • Building control
  • Services and information
  • Wales
  1. Croeso i Planning Portal
  2. Sut i wneud cais
  3. Pwy all wneud cais

Sut i wneud cais

Pwy all wneud cais
  1. Cyflwyniad
  2. Ffyrdd o wneud cais
  3. Pwy all wneud cais
  4. Cyngor cyn gwneud cais
  5. Dewis eich cais
  6. Beth i’w gyflwyno
  7. Faint mae’n ei gostio
  8. Beth nesaf?

Pwy all wneud cais

Os dymunwch, gallwch benodi asiant i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar eich rhan. Er enghraifft, efallai y byddai’n well gennych ofyn i’ch pensaer, eich cyfreithiwr neu’ch adeiladwr fod yn gyfrifol am gyflwyno cais.

Nid oes gwir angen i chi fod yn berchen ar dir i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud cais am ganiatâd cyn penderfynu p’un a hoffech brynu darn o dir ai peidio.

Mae’n rhaid hysbysu’r bobl ganlynol am gais cynllunio mewn perthynas â thir neu adeiladau y mae ganddynt fuddiant ynddo neu ynddynt:

  • Perchennog neu bob rhan-berchennog (os nad chi yw’r perchennog llawn)
  • Unrhyw lesddeiliaid y mae eu les yn para o leiaf saith mlynedd arall
  • Unrhyw denantiaid amaethyddol


Cael help gyda’ch cais

Efallai y bydd angen help ar ymgeiswyr ac apelyddion o nifer o ffynonellau gwahanol.  Efallai y bydd pobl a sefydliadau lleol yn barod i gynnig cymorth fel amaturiaid, ond gall cymorth proffesiynol fod yn ddefnyddiol hefyd.

Er mwyn cael help gan gynllunwyr proffesiynol, ewch i’r gofrestr o ymgynghorwyr cynllunio1 sy’n cael ei llunio gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol. Fel arfer bydd angen talu ffioedd am y gwasanaeth hwn.

Er mwyn cael cymorth cost isel neu am ddim, dylid cysylltu â’r grŵp mawr o gynllunwyr proffesiynol sy’n cynnig cymorth gwirfoddol i aelodau o’r cyhoedd drwy’r rhwydwaith Planning Aid2 sy’n cael ei redeg gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.

  1. http://www.rtpiconsultants.co.uk/
  2. http://www.rtpi.org.uk/planningaid/


  • Help
  • Services and information

        The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.

        The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.