Skip to content
Advertisement
Log in 
  • Do you need permission?
  • Planning
  • Building control
  • Services and information
  • Wales
  1. Croeso i Planning Portal
  2. Sut i wneud cais
  3. Cyngor cyn gwneud cais

Sut i wneud cais

Cyngor cyn gwneud cais
  1. Cyflwyniad
  2. Ffyrdd o wneud cais
  3. Pwy all wneud cais
  4. Cyngor cyn gwneud cais
  5. Dewis eich cais
  6. Beth i’w gyflwyno
  7. Faint mae’n ei gostio
  8. Beth nesaf?

Cyngor cyn gwneud cais

Yn aml, mae’n syniad da cyfarfod â swyddog cynllunio am drafodaeth anffurfiol cyn i chi gyflwyno cais. Mae rhai awdurdodau cynllunio lleol yn codi ffi am y gwasanaeth hwn felly mae’n syniad da holi’n gyntaf. Mae hefyd yn gwestiwn y bydd yn rhaid i chi ei ateb yn y ffurflen gais a gall helpu’r ACLl wrth iddo ymdrin â’ch cais.

Rydych yn cael eich annog i gael cyngor cyn gwneud cais oherwydd gall:

  • Er mwyn cadarnhau’r rhestr o ofynion lleol y gall pob awdurdod cynlllunio ofyn i chi gydymffurfio â nhw, darllenwch fwy am ofynion lleol a chenedlaethol1
  • Ei gwneud yn llai tebygol y byddwch yn cyflwyno ceisiadau annilys
  • Eich helpu i ddeall sut mae polisïau cynllunio a gofynion eraill yn effeithio ar eich cynigion

Os byddwch yn cyfarfod â swyddog cynllunio dylech fod yn hollol barod i ddisgrifio’ch cynigion a dangos cynlluniau. Gallwch:

  • gofyn am asesiad i weld a oes siawns resymol o gael caniatâd;
  • trafod problemau gyda’r safle fel ffyrdd, llwybrau troed, ceblau pŵer, cyrsiau dŵr, carthffosydd a llinellau ffôn; 
  • holi am broblemau posibl fel sŵn a thraffig ac a fyddai’r cyngor o bosibl yn gosod amodau i oresgyn y problemau hyn yn hytrach na gwrthod rhoi caniatâd cynllunio.

Mae lefel y gwaith paratoi sydd ei angen yn dibynnu ar yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud. Mewn achosion syml, dylai fod yn ddigon i edrych ar y prif faterion sy’n llywodraethu’r broses o roi caniatâd a phenderfynu pa rai sy’n berthnasol i’ch cais. Dweud pam y dylai’ch datblygiad arfaethedig gael caniatâd yn eich barn chi.  

Gan y bydd ceisiadau cynllunio yn cael eu penderfynu yn unol â’r cynllun datblygu fel arfer, bydd angen i chi gyfiawnhau unrhyw gynigion a fyddai’n gyfystyr ag eithriad i’r cynllun.

  1. https://www.planningportal.co.uk/wales/cymraeg/sut-i-wneud-cais/beth-i-w-gyflwyno


  • Help
  • Services and information

        The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.

        The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.